06
Cynhadledd Cynhwysiad Digidol Cymru: Adroddiad Cynhadledd 2008
Alun Burge Rheolwr Prosiect Cymunedau @Ei Gilydd
I wylio’r cyflwyniad o’r sesiwn hon, rhowch glec yma
Cyflwynodd Alun Burge, Rheolwr Prosiect Cymunedau @Ei Gilydd, gyflwyniad mewn dwy ran a oedd yn edrych yn ôl ar gynnydd a chyflawniadau’r cynllun cyn belled ar y naill law, ac edrych ymlaen at
ddatblygiadau posibl ar y llaw arall.
Dechreuodd Alun drwy ddweud bod lefel uchel y galw am y gynhadledd (170 o gynadleddwyr, gyda nifer fwy yn dangos diddordeb) yn dangos mai hon oedd yr adeg iawn i gynnal y digwyddiad. Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r rheini a oedd wedi helpu gyda’r cynllun, gan gynnwys aelodau’r Grw^
p Ymgynghorol a
Chris Gittins o’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau a staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Clywodd y gynulleidfa fanylion am gefndir Cymunedau @Ei Gilydd, a dywedwyd wrthynt sut y cyrhaeddodd y cynllun dros 200 o brosiectau ers ei lansio ym mis Ionawr 2006. Mae gwerthusiad annibynnol, a gynhaliwyd gan Old Bell 3, yn dangos bod y dull
gweithredu a fabwysiadwyd gan Gymunedau @Ei Gilydd wedi gweithio. (http://www.epractice.eu/cases/co mmunitiesatone)
Ar ôl dangos enghreifftiau o’r amrywiol fathau o brosiectau a ariannwyd gan Gymunedau @Ei Gilydd, esboniodd Alun sut y derbyniodd y cynllun, yn ddiweddar, gydnabyddiaeth ar lefel Ewropeaidd drwy gyhoeddiadau, gwefannau a digwyddiadau, ond pwysleisiodd bod llawer gan bob un ohonom i’w ddysgu y tu hwnt i’n ffiniau, drwy gyd-rannu syniadau ac ‘arferion gorau’. Lansiwyd gwefan y cynllun ei hun – www.communitiesatone.org – gan y Dirprwy Weinidog fis Rhagfyr diwethaf, ac fe dynnwyd sylw ati fel ‘adnodd ardderchog sy’n werth ei ddefnyddio’.
Wedyn, dechreuodd Alun amlinellu’r nodau a’r syniadau fel yr oeddent yn berthnasol i ail gyfnod arfaethedig Cymunedau @Ei Gilydd, a oedd yn ei gam cynllunio adeg y gynhadledd.
Dyma rai o’r pwyntiau allweddol o’r rhan hon o’r cyflwyniad:
• Bydd ffocws y cynllun yn parhau ar y gymuned a grwpiau gwirfoddol lleol.
• Drwy ddefnyddio cyllid Cydgyfeirio (yr hen ardaloedd Amcan Un), bydd cyfnod nesaf Cymunedau @Ei Gilydd yn ceisio cyfuno’r agenda cyfiawnder cymdeithasol gyda ffocws economaidd ‘agenda Lisbon’. (http://europa.eu/scadplus/glos sary/lisbon_strategy_en.htm)
• Bydd cyfnod nesaf y prosiect yn darparu ‘pecyn o
gefnogaeth wedi’i theilwra’ ar gyfer grwpiau ac unigolion, yn hytrach na bod yn gronfa grant, yn bennaf.
• Bydd y cynllun yn gweithio ar sail ‘dull gweithredu datblygiad tymor hir’ a bydd yn parhau i ddechrau o’r ‘fan lle mae pobl’, sef y sylfaen ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus
Previous Page